Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

 

Dyddiad:                   9  Hydref 2014

 

Amser:                       13.00am i 14.30pm            

 

Teitl:               Papur tystiolaeth ar y Gyllideb Ddrafft: 2015-16:  Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

 

 

1.         Cyflwyniad

 

Mae'r papur hwn yn rhoi sylwadau a gwybodaeth i'r Pwyllgor am y portffolio Cymunedau a Threchu Tlodi (CTP) a chynigion ar gyfer cyllidebau'r rhaglenni yn y dyfodol a amlinellwyd yn y Gyllideb Ddrafft a gyhoeddwyd ar 30 Medi 2014.  Mae'r cynigion hyn yn adlewyrchu maint y portffolio ar hyn o bryd, gan gynnwys Tai ac Adfywio.

 

Yn unol â chais y Pwyllgor, mae Atodiad A yn rhestru ffigurau'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer Prif Grŵp Gwariant (MEG) CTP, fesul Cam Gweithredu a fesul Llinell Wariant pob Cam Gweithredu yn y Gyllideb

 

2.         Cefndir

 

O gymharu â'r cynlluniau dangosol a gyhoeddwyd yng Nghyllideb Derfynol 2014-15, mae cyfanswm dyraniad DEL ar gyfer Prif Grŵp Gwariant CTP wedi cynyddu £20.54m yn 2015-16 i £737.444m yn sgil newidiadau ym Mheirianwaith y Llywodraeth a gyflwynwyd ym mis Medi 2014.

 

Ceir gostyngiad yn y DEL Adnoddau o £11.46m yn 2015-16 i £342.024m. Ceir cynnydd yn y gyllideb cyfalaf o £32m yn 2015-16 i £395.42m i gefnogi'r blaenoriaethau yng Nghynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru.

 

Dengys y tablau canlynol yr effaith gyffredinol ar gyllideb sylfaenol Terfyn Gwariant Adrannol (DEL) CTP. 

 

Tablau Ariannol Cryno:

 

 

MEG CTP

 

Cyllideb Atodol 2014-15

 

 

£000

 

Cyllideb Derfynol Cynlluniau Dangosol 2015-16

 

£000

2015-16

Newidiadau

 

 

 

£000

Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2015-16

 

£000

DEL Adnoddau

353,933

353,484

-11,460

342,024

DEL Cyfalaf

386,820

363,420

32,000

395,420

Gwaelodlin DEL

740,753

716,904

20,540

737,444

 

Mae'r dyfarndaliadau yn mynd i'r afael â blaenoriaethau allweddol y portffolio ac yn cefnogi ein themâu allweddol sef trechu tlodi a chefnogi swyddi a thwf. Mae'r ychwanegiadau cyfalaf ar gyfer y cynlluniau allweddol canlynol:

 

Cynllun

2015-16

£000

Cynllun Tir Tai Fforddiadwy

10,000

Troi Tai'n Gartrefi

10,000

Cynllun Benthyciadau Canol y Dref

5,000

Benthyciadau Gwella Cartrefi

5,000

Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr

2,000

Cyfanswm

32,000

 

Mae £30.0m o'r dyfarndaliadau yn ymwneud â chyllid trafodion ariannol a chaiff £2.0m ei ariannu o gyllid cyfalaf traddodiadol.

 

O fewn MEG cyffredinol CTP, yr elfennau penodol ar gyfer y Pwyllgor yw Cymunedau, Cydraddoldeb, Tai ac Adfywio. Ceir crynodeb o'r elfennau hynny yn y tabl isod.

 

Cefnogi Cymunedau a Phobl

Cyllideb Atodol 2014-15

 

 

£000

 

Cyllideb Derfynol Cynlluniau Dangosol 2015-16

 

£000

2015-16

Newidiadau

 

 

 

£000

Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2015-16

 

£000

DEL Adnoddau

229,096

226,847

-11,217

215,630

DEL Cyfalaf

378,820

361,420

27,050

388,470

Gwaelodlin DEL

607,916

588,267

15,833

604,100

 

 

3.         Trosolwg o'r Gyllideb

 

Wrth ddrafftio ein cynigion ar gyfer cyllideb 2015-16, rydym wedi mabwysiadu dull yn seiliedig ar ganlyniad, gan sicrhau bod ein dyraniadau cyllid arfaethedig yn adlewyrchu'r Blaenoriaethau i Gymru. Mae ein polisïau a'n hymyriadau yn ganolog i nod Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pawb yng Nghymru'n byw mewn cartref diogel a chynnes mewn cymuned fyrlymus a llwyddiannus. Mae'r portffolio yn gwneud cyfraniad mawr tuag at iechyd a lles, twf, swyddi a hyfforddiant, cyrhaeddiad addysgol, a chefnogi plant, teuluoedd a chymunedau difreintiedig. Rydym yn gweithio gyda phwyslais cyffredinol ar drechu tlodi drwy gydweithio â'n partneriaid i wella dyfodol cymunedau ledled Cymru.

 

4.            Rhaglen Lywodraethu

 

Mae gan yr Adran nifer o flaenoriaethau penodol sy'n adlewyrchu a chefnogi'r gwaith o gyflawni'r Rhaglen Lywodraethu:

 

 

Bydd setliad y gyllideb yn ein galluogi i barhau i wneud cynnydd tuag at gyflawni'r ymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu. Rydym yn gwneud cynnydd ardderchog tuag at ddarparu 10,000 o gartrefi fforddiadwy yng Nghymru yn ystod tymor y Cynulliad hwn, gyda 4,474 wedi'u darparu yn ystod dwy flynedd gyntaf y llywodraeth hon. Ar yr un pryd, rydym wedi gorfod nodi ein blaenoriaethau'n glir, yn enwedig o ystyried y pwysau ar gyllidebau mawr fel y rhaglen Cefnogi Pobl. Rydym wedi dechrau'r broses o ystyried goblygiadau'r dyraniadau hyn ar y cyd â'n partneriaid cyflawni, gan amlygu'n benodol y flaenoriaeth a roddir i'r ymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu.

 

Mae dyraniadau'r gyllideb yn seiliedig, i raddau helaeth, ar dystiolaeth a gafwyd o raglenni ymchwil a gwerthuso.  Rydym yn gosod pwyslais cynyddol ar Atebolrwydd yn Seiliedig ar Ganlyniadau (RBA) sy'n llywio'r ffordd rydym yn gweithio'n fwy cyffredinol. Bydd yr ymchwil annibynnol a wneir fel rhan o Astudiaeth Hydredol Cefnogi Pobl yn ein galluogi i werthuso cyflawniadau'r rhaglen a meithrin dealltwriaeth o effaith fyrdymor a hirdymor y rhaglen ar bobl a chymunedau yng Nghymru.  Rydym hefyd yn datblygu dull mwy strategol o werthuso'r ffordd rydym yn cyflawni canlyniadau dysgu a thlodi ar draws y portffolio. Bydd hyn yn cynnwys integreiddio rhaglenni a ddatblygwyd yn flaenorol ym mhortffolios Gweinidogol gwahanol yn agosach.

 

 

Rydym yn monitro i ba raddau y cyflawnir ymrwymiadau a'u canlyniadau cysylltiedig drwy gydol y flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys cyfarfodydd â phartneriaid cyflawni allweddol gan gynnwys Awdurdodau Lleol, Clystyrau Cymunedau yn Gyntaf a chymdeithasau tai yn ogystal â'm cyfarfodydd rheolaidd gyda swyddogion.  Adroddwn ar gynnydd yn Adroddiad Blynyddol y Rhaglen Lywodraethu.  Cynhelir gwerthusiadau o bryd i'w gilydd ac fel y bo'n briodol er mwyn sicrhau bod y canlyniadau dymunol yn cael eu cyflawni a bod y buddsoddiadau'n darparu gwerth am arian.

 

 

 

5.            Polisïau allweddol

 

Trechu Tlodi

 

Roedd y cyfraniad i Drechu Tlodi yn ffactor amlwg wrth benderfynu ar y newidiadau y dylid eu gwneud rhwng y gyllideb ddangosol ar gyfer 2015-16 a'r gyllideb ddrafft.  Ystyriwyd yr effaith ar anfantais economaidd-gymdeithasol fel rhan o'r Asesiad Integredig o Effaith y gyllideb.  Mae'r Penodau Adrannol yn yr Asesiad Integredig o Effaith yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y ffordd yr ystyriwyd yr effaith ar dlodi ym mhob portffolio. 

 

Mae pwyslais cryf ar sicrhau bod y blaenoriaethau cywir yn cael sylw parhaus er mwyn gwella canlyniadau i deuluoedd incwm isel. Rhan bwysig o'r gwaith hwn yw dwyn rhanddeiliaid gwahanol (gan gynnwys Adrannau'r Llywodraeth) ynghyd er mwyn gwneud y gorau o adnoddau ac arbenigedd.  Felly hefyd y defnydd o waith ymchwil a gwerthuso i gynorthwyo'r gwaith o ddatblygu a gweithredu ymyriadau yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae'r gyllideb o £140,000 ar  gyfer gwneud hyn yn cael ei chynnal.

 

Cymunedau yn Gyntaf

 

Mae Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn rhaglen allweddol o fewn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi.  Ymhlith y newidiadau a wnaed i'r rhaglen yn 2012 roedd lleihau nifer yr ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf o fwy na 150 i'r 52 o Glystyrau a welir ar hyn o bryd, wedi'u rheoli gan 19 o Gyrff Cyflawni Arweiniol.    Mae hyn wedi galluogi'r ardaloedd hynny i rannu mwy o adnoddau ac wedi arwain at lai o gostau gweinyddol, yn unol ag argymhellion blaenorol Swyddfa Archwilio Cymru a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.  Mae'r Clystyrau yn cynnwys pob un o'r 10% o gymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru (yn seiliedig ar ddata Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2011) ynghyd â rhai ardaloedd cyfagos.  Mae 24% o boblogaeth Cymru yn byw mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf, ond mae'r Rhaglen yn amlwg yn canolbwyntio nawr ar y bobl fwyaf difrentiedig yn yr ardaloedd hynny er mwyn i adnoddau gael eu targedu at y rheini sydd eu hangen fwyaf.

 

Mae seilwaith Cymunedau yn Gyntaf yn cael ei ddefnyddio fwyfwy fel sylfaen ar gyfer rhaglenni a gweithgareddau eraill, gan leihau eu costau eu hunain a galluogi partneriaid allweddol i ymgysylltu'n fwy uniongyrchol ac effeithiol â chymunedau difreintiedig a chael mwy o effaith yn gyflymach.  Ymhlith yr enghreifftiau mae lleoli cynghorwyr y Ganolfan Byd Gwaith mewn cyfleusterau cymunedol, cydweithio ag ysgolion lleol gan ddefnyddio'r Grant Amddifadedd Disgyblion, darparu Archwiliadau Iechyd ar gyfer Pobl Dros 50 oed mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf a Rhaglen Esgyn sy'n cefnogi pobl o aelwydydd heb waith.

 

Mae clystyrau Cymunedau yn Gyntaf yn adrodd ar yr hyn a gyflawnwyd yn erbyn Fframwaith Canlyniadau o dan dair blaenoriaeth - Ffyniant a Chyflogaeth; Dysgu a Chyflawni Potensial; ac Iechyd a Lles - a chyfres o fesurau perfformiad allweddol cysylltiedig.  Drwy fonitro'r mesurau perfformiad a gofnodir gan Glystyrau a Chyrff Cyflawni Lleol, bydd y Cyrff eu hunain a swyddogion yn gallu cymharu'r hyn a gyflawnwyd a'r gwariant yr aed iddo ar draws pob clwstwr.  Caiff mesurau perfformiad Cymunedau yn Gyntaf (yn ogystal â Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg) eu dadgyfuno lle y bo'n bosibl er mwyn rhoi dadansoddiad llawnach o'r buddiolwyr yn ôl nodweddion gwarchodedig yn ogystal â'r nifer sydd wedi manteisio ar y ddarpariaeth a gynigiwyd drwy gyfrwng y Gymraeg.  Mae Gwerthusiad Proses o'r Rhaglen hyd yma yn mynd rhagddo.

 

Caiff gostyngiad o £2.322m yng nghyllideb Cymunedau yn Gyntaf ei reoli er mwyn sicrhau y caiff yr effaith leiaf posibl ar y ddarpariaeth, ac felly ni fydd yn cael effaith anghymesur ar unrhyw grŵp penodol yn y gymuned. Mae hyn yn cynnwys lle mae gan Glystyrau gyfran uwch na'r cyfartaledd o siaradwyr Cymraeg, grwpiau lleiafrifoedd ethnig neu bobl â nodweddion gwarchodedig. Caiff effaith y gostyngiad ei rheoli drwy weithio gyda Chyrff Cyflawni Arweiniol i fonitro gwariant yn agos a llunio proffil o'r gwariant hwnnw, a thrwy symud cyllid a allai, fel arall, gael ei danddefnyddio (er enghraifft o ganlyniad i swyddi gwag) i Glystyrau a phrosiectau sydd eisoes yn barod i gyflawni'r canlyniadau gofynnol. Drwy fabwysiadu'r dull hyblyg hwn, dylai'r cyllid a ddyrennir i Raglen Cymunedau yn Gyntaf gael ei wario'n llawn.  Ar y sail hon, mae Cyrff Cyflawni Arweiniol yn debygol o gyflawni canlyniadau sy'n debyg iawn i'r rhai a nodwyd yn eu Cynlluniau Cyflawni cyfredol. 

 

At hynny, bydd Cymunedau yn Gyntaf yn parhau i gefnogi prosiectau arian cyfatebol Grant Amddifadedd Disgyblion mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf a chanolbwyntio'n fwy ar leihau diweithdra ymhlith pobl ifanc fel mesur ataliol tymor hwy i leihau tlodi.  Bydd hefyd yn parhau'n gwbl ymrwymedig i Raglen Esgyn, sy'n cynnig cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddi i bobl o aelwydydd heb waith a'r rhai sydd fwyaf tebygol o wynebu tlodi parhaus.  Bellach, ceir 9 o ardaloedd Esgyn yng Nghymru, sy'n cwmpasu 11 o'r Clystyrau Gymunedau yn Gyntaf.  Maent yn defnyddio seilwaith y brif raglen er mwyn lleihau costau gweinyddol a sicrhau bod adnoddau rhaglen Esgyn yn cael eu defnyddio i gefnogi cleientiaid y Rhaglen gymaint â phosibl.

 

Cafwyd proses ymgynghori ac ymgysylltu helaeth cyn i Raglen Cymunedau yn Gyntaf newid i'w ffurf bresennol, a oedd yn cynnwys pobl â nodweddion gwarchodedig. Ceir cysylltiad â Rheolwyr Clystyrau a Chyrff Cyflawni Arweiniol mewn cyfarfodydd monitro a chaiff Cynlluniau Cynnwys Cymunedau a Chynlluniau Cyflawni'r Clystyrau eu hadolygu a'u diweddaru'n rheolaidd yng nghyfarfodydd chwarterol Clystyrau Rhanbarthol.  

 

Diwygio Lles

 

Mae asesiad Llywodraeth Cymru o effaith y diwygiadau lles, sy'n canolbwyntio ar bobl o oedran gweithio, yn amcangyfrif y bydd gostyngiad o £900 miliwn yn y budd-daliadau a'r credydau treth blynyddol y gellir eu hawlio yng Nghymru yn 2015/16. I roi'r golled gyffredinol hon yn ei chyd-destun, amcangyfrifir y bydd tua £6 biliwn o wariant ar fudd-daliadau a chredydau treth a £45 biliwn o incwm gwario gros yr aelwydydd yn 2015/16.

 

Gellir priodoli tua hanner y golled hon i'r ffordd y caiff budd-daliadau a chredydau treth eu huwchraddio[1]. Mae colledion ariannol mawr eraill yn deillio o leihad yn y llwyth achosion o dan Daliadau Annibyniaeth Bersonol (PIP) o gymharu â Lwfans Byw i'r Anabl (DLA) a'r penderfyniad i bennu terfyn amser o flwyddyn ar gyfer Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) cyfrannol i'r rheini yn y grŵp gweithgaredd cysylltiedig â gwaith. I'r gwrthwyneb, mae rhai o'r diwygiadau i Fudd-dal Tai (HB) a'r Cap ar Fudd-dal Tai yn arwain at lawer llai o golledion o ran cyfanswm yr incwm yng Nghymru.

 

Hyd yn oed ar ôl ystyried effaith y newidiadau i bensiynau a threthi personol, mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn amcangyfrif y bydd colled flynyddol o dros £700 miliwn yng Nghymru yn 2015/16.

 

Er na all Llywodraeth Cymru wneud iawn am y diffyg a grëwyd gan y newidiadau o ran diwygio lles, fel y'i nodir yn ein Rhaglen Lywodraethu, mae'n ymrwymedig i fynd ati i leddfu effaith y diwygiadau, ar draws y Llywodraeth, gymaint ag y gall o fewn cyd-destun lleihau cyllidebau. 

Mae rhywfaint o'r gwaith lliniaru hwn yn cael ei ariannu drwy'r gyllideb Cymunedau, gan gynnwys cyllid ychwanegol i gefnogi gwasanaethau cynghori a chymorth rheng flaen ar faterion sy'n ymwneud â budd-daliadau lles, fel y'i hamlinellir yn yr adrannau ar Gynhwysiant Ariannol a Chynhwysiant Digidol isod.

 

Bydd angen llunio meini prawf cymhwysedd newydd ar gyfer budd-daliadau a drosglwyddir a gaiff eu gweinyddu gan Lywodraeth Cymru, o ystyried y newidiadau a gyflwynwyd i fudd-daliadau a chredydau treth gan Lywodraeth y DU. Mae'n bosibl y bydd i'r meini prawf cymhwysedd newydd oblygiadau ariannol i gyllideb Llywodraeth Cymru. Rydym wrthi'n asesu'r cyfryw oblygiadau.

 

Yn olaf, bydd Llywodraeth Cymru yn cadw golwg craff ar oblygiadau unrhyw newidiadau arfaethedig eraill i'r system les o ganlyniad i refferendwm yr Alban. 

 

Cydraddoldeb

Rydym wedi diogelu'r gyllideb ar gyfer ein Grant Cydraddoldeb a Chynhwysiant (EIG), sy'n cefnogi Plant, Teuluoedd a Chymunedau Difreintiedig drwy ymrwymo i drechu tlodi, sicrhau cyfiawnder cymdeithasol a chyfle cyfartal.  Bydd cyllid yn 2015-16 yn parhau i gefnogi'r prosiectau y dyfarnwyd tair blynedd o gyllid iddynt o fis Ebrill 2014.  Mae'r Grant Cydraddoldeb a Chynhwysiant yn cefnogi amcanion ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol o ran trechu tlodi, gan ganolbwyntio ar fesurau ataliol ac ymyriadau cynnar i alluogi pobl i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a gweithio tuag at sicrhau cyfleoedd a chanlyniadau mwy cyfartal.

 

Mae £0.2m wedi'i gadw hefyd ar gyfer Cydlyniant Cymunedol. Nod y rhaglen yw gweld mwy o gydweithio rhwng Awdurdodau Lleol, Partneriaethau Diogelwch Cymunedol, Partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf a sefydliadau trydydd sector.  Mae Cydlyniant Cymunedol hefyd yn gweithio tuag at sicrhau mwy o gyfranogiad ym mywyd y gymuned a chyfle cyfartal gwell i grwpiau na chânt eu clywed yn aml, gan gynnwys Sipsiwn, Teithwyr, ymfudwyr, ceiswyr lloches a ffoaduriaid, gan gefnogi cymunedau sy'n wynebu cyfle anghyfartal yn aml.

 

Cynhwysiant Ariannol

 

Mae'r llinell Cynhwysiant Ariannol yn y gyllideb yn cefnogi meysydd gwaith allweddol sy'n ymwneud ag Undebau Credyd, Gwasanaethau Cynghori a'r Gronfa Cymorth Dewisol.

 

Defnyddiwyd rhywfaint o'r cyllid cydweithredol a roddwyd i Undebau Credyd ym mis Ionawr 2014 i gynnal ymgyrch farchnata a hysbysebu gyda'r nod o gefnogi cynaliadwyedd y mudiad. Mae ffigurau yn dangos, hyd yma, fod 2,504 o aelodau newydd wedi ymuno ag Undebau Credyd ers dechrau'r ymgyrch.  Yn ôl gwaith a wnaed gan Beaufort Research ym mis Mehefin 2014, fel rhan o Arolwg Omnibws Cymru, roedd ymwybyddiaeth gyffredinol o Undebau Credyd yng Nghymru wedi cynyddu 6% (o 60% i 66%) ers dechrau'r ymgyrch.

 

Yn ogystal â'r cyllid cydweithredol, ym mis Mawrth neilltuwyd £1.9 miliwn, wedi'i dapro tan fis Mawrth 2017, i gefnogi'r mudiad undebau credyd. Caiff £0.6m o'r cyfanswm hwn ei ddarparu yn 2015-16.  Rhoddwyd y cymorth parhaus hwn i Undebau Credyd er mwyn iddynt allu darparu gwasanaethau i'r aelodau hynny o'r gymdeithas sydd wedi'u hallgáu fwyaf yn ariannol, gan barhau i wella eu cynaliadwyedd eu hunain.

 

O ran gwasanaethau cynghori, rydym wedi darparu cymorth i'r Cynllun Cyngor Da: Bywyd Da, sy'n rhoi cyngor ynghylch budd-daliadau. Yn ogystal â hyn, cynigiwyd £2 filiwn i ddarparwyr cyngor yn y flwyddyn ariannol hon i gefnogi gwasanaethau cynghori rheng flaen ar faterion sy'n ymwneud â budd-daliadau lles, dyled a thai ac i roi agweddau pwysig ar yr Adolygiad o Wasanaethau Cynghori ar waith, gan gynnwys cydweithio gwell rhwng darparwyr a mwy o gysondeb rhwng gwasanaeth arbenigol sy'n rhoi cyngor ar faterion gwahaniaethu ledled Cymru. Bydd y gwasanaethau hyn o fudd i lawer o bobl yn ein cymunedau sy'n dwyn baich Diwygiadau Lles ac sydd fwyaf tebygol o fod yn byw mewn tlodi. Byddant o fudd i grwpiau â nodweddion gwarchodedig, yn enwedig gwasanaethau arbenigol sy'n delio â materion gwahaniaethu, ac yn cyrraedd pobl sy'n byw mewn ardaloedd mwy gwledig o Gymru.  

 

Drwy fonitro'r galw am y Gronfa Cymorth Dewisol yn agos, rwyf wedi gallu ailflaenoriaethu rhywfaint o'r cyllid a ddyrannwyd i'r Gronfa hon yn wreiddiol er mwyn cefnogi rhai o'r gwasanaethau mwy ataliol hyn yn 2014-15.   Yn ddarostyngedig i waith monitro agos pellach a'r penderfyniadau a wneir ar y gyllideb derfynol, rwy'n cynnig y dylid cadw'r lefel bresennol o gyllid sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau cynghori yn 2015-16.  

 

Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol yn rhoi cymorth brys i rhwng 1,500 a 2,000 o bobl bob mis.  Mae gwerthusiad o'r Gronfa yn mynd rhagddo.  Mae'r gyllideb Cynhwysiant Ariannol yn cynnwys darpariaeth ar gyfer parhad y Gronfa.

 

Cynhwysiant Digidol

 

Caiff cymorth cyllidebol ei gynnal ar gyfer gweithgareddau Cynhwysiant Digidol drwy ddefnyddio cyllid yr UE a gariwyd ymlaen o 2014-15.  Bydd y gweithgareddau hyn yn cyfrannu at gyflawni'r targedau heriol a osodwyd ar gyfer 2017 yn ein Cynllun Cyflawni Cynhwysiant Digidol a ddiweddarwyd ac a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2014. Mae opsiynau'n cael eu hystyried ar gyfer gweithgareddau cynhwysiant digidol yn y dyfodol, a gaiff eu llywio gan y gwerthusiad parhaus o gynllun Cymunedau 2.0.   Bydd unrhyw fenter yn y dyfodol yn adeiladu ar y llu o weithgareddau cynhwysiant digidol sy'n cael eu cynnal ledled Cymru mewn partneriaeth â Cymunedau 2.0 ac yn annibynnol ar y cynllun. 

 

Y Trydydd Sector

 

Yn dilyn ymgynghoriad yn 2013, mae Llywodraeth Cymru wedi ailadrodd ei hymrwymiad i weithio'n agos gyda'r Trydydd Sector yng Nghymru a chefnogi ei ddatblygiad a'i dwf.   Nodwyd manylion yr ymrwymiad hwn yng Nghynllun y Trydydd Sector, dogfen a ddiwygiwyd yn llawn a ddatblygwyd mewn partneriaeth agos â'r sector drwy Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector ac a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2014.    Mae'r Cynllun yn cynnwys ein Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu'r Trydydd Sector sy'n nodi 17 o Egwyddorion a chyngor ar yr amryw ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid.

 

Mae Cynllun y Trydydd Sector yn ailadrodd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu cyllid craidd i gyrff seilwaith y Trydydd Sector ledled Cymru, yn bennaf Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), Cynghorau Gwirfoddol Sirol a Chanolfannau Gwirfoddoli.  Mae'r cyrff hyn yn gweithio'n agos gyda'i gilydd ac yn sicrhau bod cyngor ac arweiniad cyson ar gael yn hawdd i sefydliadau gwirfoddol a gwirfoddolwyr unigol unrhyw le yng Nghymru.    Mae cyllideb Seilwaith y Trydydd Sector yn cwmpasu'r gwaith hwn, yn ogystal â grantiau i gefnogi gwaith gwirfoddoli, Uned Cofnodion Troseddol CGGC a chyllid craidd ar gyfer y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru.

 

Bydd y gwaith hwn yn parhau yn 2015/16 ond, yn unol â chanlyniadau'r ymgynghoriad, rhoddir mwy o bwyslais o fewn Seilwaith y Trydydd Sector ar drechu tlodi a chefnogi cymunedau lleol.    Bydd y gefnogaeth a roddir ar gyfer gwaith gwirfoddoli yn fwy cydlynol hefyd a bydd y cyrff seilwaith yn cefnogi'r newidiadau sy'n cael eu cyflwyno i wasanaethau cyhoeddus yn unol ag ymateb Llywodraeth Cymru i'r Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus, gan gynnwys mwy o waith rhanbarthol a rhannu adnoddau.   Bydd y newidiadau hyn yn ystyried y gostyngiad yng nghyllideb gyffredinol Seilwaith y Trydydd Sector o £7.3 miliwn yn 2014/15 i £6.805 miliwn yn 2015/16.  Mae'r cynigion ar gyfer trefniadau cyllido a ddatblygwyd gan y sector ar gyfer 2015/16 wrthi'n cael eu harfarnu a chaiff penderfyniad terfynol ei wneud ynghylch y dyraniadau cyn y Nadolig, yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu'r Trydydd Sector.   Bydd y gostyngiad yn y gyllideb yn effeithio ar y cyrff seilwaith, y mae toriadau yng nghyllid awdurdodau lleol neu ffrydiau incwm eraill yn effeithio ar lawer ohonynt hefyd.    Caiff gofal ei gymryd i sicrhau bod y toriadau'n cael eu dosbarthu'n deg fel na fydd effaith anghymesur ar unrhyw sefydliad unigol, rhanbarth daearyddol na maes gwaith.

 

 

Grant Cefnogi Pobl

 

Mae'r Rhaglen Cefnogi Pobl yn rhan allweddol o bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Atal Digartrefedd sy'n cefnogi llai o ddefnydd o'r GIG, defnydd hirdymor o Wasanaethau Cymdeithasol, trechu tlodi a mentrau i helpu pobl i mewn i addysg neu gyflogaeth. Mae'r Rhaglen yn rhoi cymorth sy'n gysylltiedig â thai i bobl sy'n agored i niwed.

 

O ystyried ei phwysigrwydd, rydym wedi ceisio lleihau'r gyllideb hon cymaint â phosibl ond caiff ei lleihau i £124 miliwn yn 2015-16. Bydd y gwaith o liniaru effaith y gostyngiad hwn yn her bwysig i Bwyllgorau Cydweithredu Rhanbarthol, Awdurdodau Lleol a darparwyr gwasanaethau.  Mae'r holl asiantaethau sy'n gysylltiedig â chyflwyno'r rhaglen wedi bod yn paratoi ar gyfer gostyngiad yn y gyllideb gyda'r nod o leihau'r effaith y gallai hyn ei chael o ran argaeledd gwasanaethau.  Rydym yn parhau i ystyried, ar y cyd â'r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol a Phwyllgorau Cydweithredu Rhanbarthol, gynigion manwl ar gyfer gweithredu'r newidiadau hyn.

 

Rydym yn mesur perfformiad yr ymyriadau sy'n gysylltiedig â'r Grant Cefnogi Pobl mewn sawl ffordd. Yn gyntaf, drwy ystyried gwybodaeth a gyflwynir gan Awdurdodau Lleol sy'n nodi sut maent yn gwario'r grant. Yn ail, drwy gasglu ystod o ddata cyfanredol sy'n amlinellu'r modd y mae canlyniadau yn cael eu cyflawni gan y bobl sy'n cael y cymorth. Mae'r rhain yn cynnwys mesurau fel 'teimlo'n fwy diogel', 'rheoli arian', a 'rheoli llety' yn ogystal â 'teimlo'n iach yn gorfforol' a 'teimlo'n iach yn feddyliol'. Rydym bellach wedi cytuno ar raglen waith gyda chynrychiolwyr o'r sector gwirfoddol ac Awdurdodau Lleol a fydd yn arwain at gasglu data mwy cyson a chadarn yn y dyfodol. Dros y chwe mis diwethaf, mae fy swyddogion hefyd wedi cynnal archwiliad manwl o'r modd y darperir gwasanaethau mewn dwy ardal awdurdod lleol. Mae'r archwiliadau hyn wedi bod o fudd i bob parti ac wedi darparu tystiolaeth well o effeithiau'r cynllun.  Byddwn yn cynnal archwiliadau pellach o'r fath yn 2015-16.

 

 

Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr

 

Bydd y cyllid Grant Cyfalaf ar gyfer Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn cynyddu £2m o £1.5m yn 2014-15 i £3.5m yn 2015-16. Mae'r Grant Cyfalaf Safleoedd yn darparu cyllid ar gyfer adnewyddu safleoedd presennol Sipsiwn a Theithwyr Awdurdodau Lleol a datblygu rhai newydd.

 

Dylai newidiadau yn y gyllideb arwain at ddatblygu safleoedd Sipsiwn a Theithwyr Awdurdodau Lleol ychwanegol, a fydd yn lleihau cyfraddau digartrefedd ymhlith y cymunedau hyn. Mae tangyflenwad sylweddol o safleoedd Sipsiwn a Theithwyr awdurdodedig yng Nghymru ac mae angen mynd i'r afael â hyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi amcangyfrif bod angen rhwng 209 a 243 o leiniau ychwanegol (pob aelwyd ar safle) ac mae'r Awdurdodau Lleol eu hunain wedi amcangyfrif bod angen 326 ohonynt.

 

Dim ond un safle Sipsiwn a Theithwyr Awdurdod Lleol sydd wedi'i agor yng Nghymru ers 1997 (agorwyd ym mis Ebrill 2014). Mae'r sefyllfa hon wedi arwain at dangyflenwad sylweddol o leiniau, a ddangosir gan asesiadau o lety Sipsiwn a Theithwyr Awdurdodau Lleol a nifer y gwersylloedd sydd heb eu hawdurdodi.

 

Nododd ymarfer ymgysylltu ag Awdurdodau Lleol swm y cyllid sy'n debygol o fod ei angen i gefnogi prosiectau arfaethedig yn ystod 2015-16. Tybiwyd bod £2 filiwn ychwanegol yn ddigonol i fodloni'r galw yn ystod y flwyddyn honno. Mae achos busnes wedi'i lunio ar gyfer cyllid mewn blynyddoedd i ddod, gan ystyried y dyletswyddau newydd yn Neddf Tai (Cymru) 2014.

 

Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n sefydlu system casglu data gyda'r nod o ddangos y gostyngiad hirdymor mewn gwersylloedd o ganlyniad i safleoedd newydd.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyflwyno Asesiadau newydd o Anghenion Iechyd er mwyn nodi'r anghydraddoldebau iechyd a wynebir gan gymunedau Sipsiwn a Theithwyr. Dylai'r asesiadau hyn nodi newidiadau o ran mynediad i wasanaethau iechyd a chanlyniadau iechyd dros amser a'u cymharu â mynediad i safleoedd.

 

Bydd Asesiadau o Lety Awdurdodau Lleol yn parhau i asesu'r angen i ddarparu safleoedd ychwanegol ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i adolygu'r asesiadau hyn wrth ddadansoddi'r angen am gyllid Grant Cyfalaf Safleoedd.

 

Grant Tai Cymdeithasol a Grant Cyllid Tai

 

Mae'r rhaglen Grant Tai Cymdeithasol a'r Grant Cyllid Tai yn darparu cyllid i gynorthwyo gyda'r gwaith o adeiladu neu adnewyddu cartrefi fforddiadwy i'w rhentu (cymdeithasol a chanolradd) ac ar gyfer rhannu ecwiti (cymorth prynu).  Caiff y cyllid ei ddefnyddio ar gyfer amrywiol fathau o lety e.e. fflatiau, byngalos, hosteli a llochesi, sy'n cynnwys llety a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn.

 

Dyrannwyd cyllideb cyfalaf o £62.3 miliwn i'r rhaglen Grant Tai Cymdeithasol ar gyfer 2015-16 ac mae gan y Grant Cyllid Tai gyllideb refeniw o £4 miliwn.

 

Mae'r tai fforddiadwy a ddarperir gyda chymorth grant yn bodloni Gofynion Ansawdd Dylunio (DQR) a safonau cartrefi gydol oes er mwyn sicrhau gwerth am arian. Caiff perfformiad ei fesur yn erbyn y targed o 10,000 o dai fforddiadwy yn ystod cyfnod y llywodraeth hon ac mae 4,474 o dai wedi'u hadeiladu yn ystod y ddwy flynedd gyntaf.  Caiff unrhyw gynnydd yn nifer y tai fforddiadwy ei ddangos gan ystadegau Llywodraeth Cymru ar nifer y tai fforddiadwy newydd sy'n cael eu darparu bob blwyddyn. Caiff yr ystadegau diweddaraf ar gyfer 2013-14 eu cyhoeddi yn yr Hydref.

 

Troi Tai'n Gartrefi

 

Y targed cyffredinol yw bod 5,000 o eiddo gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto yn ystod tymor y Cynulliad hwn.  Mae 4,471 o eiddo eisoes wedi'u hadnewyddu yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae ein polisi Troi Tai'n Gartrefi ar y trywydd cywir a bydd yn sicrhau bod mwy o gartrefi ar gael er mwyn helpu i fynd i'r afael â materion cymdeithasol ac adfywio cymunedau. Bydd y swm ychwanegol o £10m ar gyfer 2015-16 yn ein galluogi i dargedu mwy o'r 20,000 o eiddo gwag yng Nghymru a chyflawni buddiannau'r cynllun yn gynt.

 

Mae Prifysgol Sheffield Hallam wedi cwblhau bron i ddwy flynedd o'i gwerthusiad tair blynedd o'r rhaglen a gyhoeddir y flwyddyn nesaf.

 

Cymorth i Brynu - Cymru

 

Byddwn yn buddsoddi mwy na £170 miliwn dros dair blynedd yn ein cynllun Cymorth i Brynu - Cymru, sydd wedi'i gynllunio i gynyddu'r cyflenwad tai yng Nghymru, gan helpu'r sawl sy'n prynu am y tro cyntaf a'r rheini sydd eisoes yn berchen ar dŷ i brynu eiddo newydd.

 

Mae dros 800 o geisiadau am fenthyciadau wedi'u cymeradwyo o dan ein cynllun Cymorth i Brynu. Mae'r cynllun yn helpu i adfer hyder yn y sector adeiladu ac yn galluogi mwy o bobl i brynu tŷ am y tro cyntaf. Yn ystod y cyfnod adeiladu, caiff cyflogaeth yn y gymuned leol a'r ardal gyfagos ei chefnogi hefyd drwy'r contract adeiladu, gan ddarparu swyddi, cyfleoedd hyfforddi a phrentisiaethau. Mae hyn yn helpu i gynnal busnesau bach a chefnogi cyflogaeth hirdymor yn yr ardal.

 

Mae'r cynllun yn destun adolygiad cadarn o wybodaeth reoli fanwl sy'n cwmpasu gweithgarwch adeiladwyr, gweithgarwch prynwyr, gweithgarwch benthycwyr a gwybodaeth ariannol gyffredinol.

 

Caiff trafodaethau â Thrysorlys EM ynghylch y cyllid Trafodion Ariannol y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ei ad-dalu eu harwain gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth. 

 

Safonau Ansawdd Tai Cymru

 

Drwy fuddsoddi yn Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC), ein nod yw sicrhau bod pob annedd o ansawdd da ac yn addas ar gyfer anghenion preswylwyr nawr ac yn y dyfodol. Pennodd Llywodraeth Cymru darged i bob landlord cymdeithasol, sef gwella ei stoc dai er mwyn cyrraedd SATC cyn gynted â phosibl, ac erbyn 2020 fan bellaf. Mae'r ffurflenni ystadegol cyfredol a gyflenwyd gan landlordiaid cymdeithasol yn darogan y bydd 73% o'u stoc yn cydymffurfio â'r Safon erbyn mis Mai 2016.

 

Mae proses Cynllun Busnes drwyadl ar waith sy'n gofyn yn benodol i landlordiaid am y risgiau sy'n gysylltiedig â diwygio lles. Mae cynlluniau a ddatblygwyd gan Gymdeithasau Tai Lleol er mwyn sicrhau y cyrhaeddir SATC yn cael eu hasesu gan ein Dadansoddwyr Ariannol ar hyn o bryd. Mae hefyd yn ofynnol bellach i bob Landlord Cymdeithasol Cofrestredig a Chymdeithas Dai Leol gynnwys cymalau cymdeithasol ym mhob contract caffael lle gellir gwireddu buddiannau cymunedol - caiff y canlyniadau eu holrhain drwy Gwerth Cymru.

 

Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid

 

Mae'r Fframwaith Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yn amlinellu ein hamcanion adfywio cenedlaethol sef y dylai pawb yng Nghymru fyw mewn cymunedau llewyrchus, cynaliadwy, llawn addewid, sydd â chysylltiadau da, economi leol gref ac ansawdd bywyd da. Mae'n gyson â rhaglen Cymunedau yn Gyntaf - Cymunedau Ffyniannus, Cymunedau Dysgu a Chymunedau Iachach.

 

Caiff y brif raglen ei chefnogi gan gyllideb trechu tlodi gwerth £7 miliwn ar gyfer saith cymuned arall yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig. Mae'r £7 miliwn wedi'i glustnodi ar gyfer prosiectau yn y 10 y cant o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru ac fe'i dyrannwyd i'r awdurdodau lleol i'w ddefnyddio mewn ardaloedd penodol - naill ai dref neu ardal o fewn tref neu ddinas.

 

Mae fframwaith gwerthuso cadarn yn cael ei ddatblygu ar gyfer Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid. Rydym wedi cytuno ar amrywiaeth o ddangosyddion y mae'n rhaid i Awdurdodau Lleol bennu rhagolygon a chyflwyno adroddiadau ar berfformiad yn eu herbyn.

 

Cyfleusterau Cymunedol

 

Mae'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn gynllun grant dewisol. Gwahoddwyd ceisiadau ar gyfer dyfarndaliadau unigol o hyd at £500,000. Cyhoeddwyd bod y rhaglen yn anelu at gynnig £10 miliwn rhwng nawr a diwedd 2015.  Bydd hynny'n wir o hyd ond caiff £4.95 miliwn o'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol ei drosglwyddo i Dechrau'n Deg ar sail anghylchol yn 2015-16.   Mae hyn yn debygol o olygu na fydd cyllid ar gael ar gyfer rhwng pump a deg o brosiectau cyfalaf cymunedol yn 2015/16.   Roedd y penderfyniad i drosglwyddo cyllid i Dechrau'n Deg yn seiliedig ar y ffaith y byddai buddsoddi mewn darpariaeth o ansawdd da ar gyfer blynyddoedd cynnar, gan gynnwys gofal plant a chymorth rhianta, yn cael mwy o effaith ataliol yn yr hirdymor.  Mae'r penderfyniad yn gyson â hyrwyddo hawliau plant, fel sy'n ofynnol gan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Bydd y cyllid a drosglwyddir yn helpu i gyflawni targed y Llywodraeth o ddyblu nifer y plant dan 4 oed sy'n cael budd o Dechrau'n Deg i 36,000 erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn.

 

 

 

Cydraddoldeb, cynaliadwyedd ac ystyriaeth o'r Gymraeg

 

Wrth gymhwyso materion datblygu cynaliadwy at y broses o bennu'r gyllideb ar gyfer CTP, gwnaed penderfyniadau sy'n adlewyrchu pum egwyddor allweddol datblygu cynaliadwy:

 

·        Cydweithio – cydnabod na all llawer o'r atebion i'r heriau 'cynaliadwyedd' sy'n wynebu Cymru gael eu datrys gan un sefydliad yn unig. Byddwn yn parhau i achub ar gyfleoedd i gydweithio ar draws y Llywodraeth a chyda phartneriaid eraill, gan gynnwys y trydydd sector, er mwyn sicrhau bod rhaglenni a gwasanaethau yn cyrraedd y cymunedau sydd eu hangen fwyaf.

·        Integreiddio – er enghraifft, mae gan ein rhaglenni Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf a Cymunedau yn Gyntaf ganlyniadau a rennir sy'n hyrwyddo ffyniant a chyflogaeth, dysgu a chyflawni potensial, ac iechyd a lles. Mae ein rhaglenni hefyd yn helpu i gyflawni'r amcanion a nodir yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol.

·        Hirdymor – buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar a chymorth i deuluoedd, gan fod y dystiolaeth yn dangos y bydd hyn yn arwain at fwy o fuddiannau yn yr hirdymor. 

·        Atal – ceisio mynd i'r afael â phroblemau yn y fan a'r lle, yn hytrach na mynd i'r afael â chanlyniadau'r problemau hyn yn ddiweddarach.  Mae dulliau ataliol ac ymyriadau cynnar nid yn unig yn fuddiol i bobl a chymunedau ond gallant hefyd sicrhau arbedion cost hirdymor hefyd. Mae'r dull gweithredu hwn yn ganolog i'n rhaglenni trechu tlodi a'n dulliau o fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb a wynebir gan bobl â nodweddion gwarchodedig.

·         Canolbwyntio ar y dinesydd / ymgysylltu – cydnabod pwysigrwydd cynnwys pobl yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt: er enghraifft, mae cyfranogiad y gymuned yn nodwedd allweddol ar raglen Cymunedau yn Gyntaf.

 

Mae blaenoriaethu anghenion y tlotaf a diogelu’r rhai mwyaf difreintiedig a mwyaf agored i niwed yn hollbwysig, yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd gyfredol. Mae’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol a’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi yn darparu fframwaith pwysig ar gyfer gwneud hyn. Yn benodol, mae’r camau gweithredu i drechu tlodi a chamau gweithredu i leihau anghydraddoldebau nid yn unig yn ategu ei gilydd ond yn adeiladu ar ei gilydd hefyd.

Dengys y dystiolaeth fod pobl sydd â nodweddion gwarchodedig penodol yn wynebu mwy o risg o fyw mewn aelwydydd incwm isel ac felly bydd mentrau i drechu tlodi yn cael effaith gadarnhaol ar y grwpiau hynny. Gwyddom hefyd fod rhai grwpiau lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl, rhieni unigol (merched yn bennaf), a phobl iau nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant yn wynebu mwy o risg o fyw mewn aelwydydd incwm isel. Yn arbennig, mae cynrychiolaeth anghymesur o bobl anabl mewn cartrefi economaidd anweithgar ac aelwydydd heb waith. Byddwn yn parhau i nodi cyfleoedd i gysoni Cynllun Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru â’r amcanion yn y Strategaeth Tlodi Plant a’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi, a helpu’r plant a’r teuluoedd hynny sydd â nodweddion gwarchodedig penodol. Mae mwy o bwyslais eisoes ar fonitro canlyniadau’r grwpiau hynny sy’n wynebu risg o fyw mewn tlodi a’r rhai â nodweddion gwarchodedig o fewn rhaglenni'r portffolio Cymunedau a Threchu Tlodi.

 

Fel rhan o’n rhaglen ymchwil i asesu effaith y diwygiadau lles yng Nghymru, rydym wedi ystyried effeithiau ar y rhai â nodweddion gwarchodedig. Dengys canfyddiadau’r gwaith ymchwil hwn y bydd aelwydydd â phobl anabl o oedran gweithio, a’r rhai ar incwm isel yn benodol, yn colli llawer mwy o incwm ar gyfartaledd nag aelwydydd heb bobl anabl o oedran gweithio o ganlyniad i ddiwygiadau treth a lles llywodraeth y DU. Dengys yr ymchwil hefyd y caiff y diwygiadau effaith sylweddol ar rieni unigol, y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn ferched, o gymharu â mathau eraill o aelwydydd (e.e. pensiynwyr). Mae hyn yn adlewyrchu'r ffaith bod aelwydydd o'r fath yn fwy dibynnol ar fudd-daliadau, a/neu'n ddibynnol iawn ar y budd-daliadau hynny a dorrwyd fwyaf.[2]. Rydym yn defnyddio canfyddiadau’r gwaith ymchwil hwn i helpu i dargedu ein camau lliniaru tuag at y rhai y mae angen y cymorth mwyaf arnynt.

 

Caiff tystiolaeth sy’n dangos bod Sipsiwn a Theithwyr yn cael gwell mynediad i wasanaethau os ydynt yn byw ar safleoedd awdurdodedig ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr ei hategu gan lawer o astudiaethau ymchwil, gan gynnwys astudiaeth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ‘Inequalities experienced by Gypsy and Traveller communities: A review’ (2009). Mae Estyn wedi cydnabod pa mor bwysig ydyw hefyd i addysg plant. Drwy ddarparu mwy o safleoedd, bydd Llywodraeth Cymru yn dangos ei bod yn helpu i hwyluso ffordd draddodiadol y Sipsiwn o fyw (gofyniad a sefydlwyd gan achos Chapman v y DU yn Llys Hawliau Dynol Ewrop, 2001).

 

Mae gwaith ymchwil pellach yn dangos yn glir bod canlyniadau iechyd ac addysg plant a phobl ifanc yn well os ydynt yn byw mewn cartref diogel a chlud mewn cymuned ddiogel.  Bydd y cyllid a ddarparwyd gennym ar gyfer ein Rhaglenni Lwfans Atgyweiriadau Mawr a Grant Tai Cymdeithasol yn helpu i wella’r canlyniadau hyn.

 

 

6.            Gwariant Ataliol

 

Erys gwariant ataliol yn un o themâu allweddol y portffolio hwn. Awgryma tystiolaeth fod buddsoddi mewn datblygu blynyddoedd cynnar yn un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol ac ariannol gynaliadwy o drechu tlodi, gan arwain at ganlyniadau gwell i’r plentyn unigol a llai o angen am ymyriadau drud flynyddoedd yn ddiweddarach. Mae’r safbwynt hirdymor hwn yn gyson â’r dull gweithredu datblygu cynaliadwy sydd wedi’i ymgorffori yn Mil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

 

Mae Cymunedau yn Gyntaf, mewn sawl ffordd, yn rhaglen ataliol sy’n darparu adnoddau allweddol i’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru ac yn gweithio’n agos gyda phobl leol i gynllunio a chyflwyno atebion i broblemau lleol.  Nodwyd bod y rhaglen yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o leihau tensiwn a hyrwyddo cydlyniant cymunedol mewn rhai ardaloedd.  Yn fwy cyffredinol, mae’n darparu llwyfan ar gyfer cymryd camau sy’n canolbwyntio ar y gymuned gyda phwyslais cryf ar gyfranogiad y gymuned a gweithio gyda’r bobl â'r angen mwyaf.

 

Mae’r Grant Cefnogi Pobl yn rhaglen gwariant ataliol allweddol sy’n galluogi pobl i aros yn eu cartrefi am gyfnod hwy ac yn lleihau’r pwysau ar y GIG a Gwasanaethau Cymdeithasol. Er i’r Gyllideb Atodol gael ei diogelu y llynedd, rydym wedi penderfynu diogelu’r gyllideb Ddigartrefedd eleni oherwydd y gofynion cynyddol ar y gyllideb i gyflawni elfennau Digartrefedd y Bil Tai. Golyga hyn y bydd y Grant Cefnogi Pobl yn gostwng i £124.4 miliwn yn 2015-16.

 

Mae’r gyllideb Ddigartrefedd gwerth £11.3 miliwn yn gwneud cyfraniad sylweddol i’r gwaith o atal digartrefedd a’r costau y mae Awdurdodau Lleol yn mynd iddynt pan fydd pobl yn y sefyllfa hon. Bydd y gronfa hefyd yn cyflawni elfennau allweddol o’r Bil Tai gan y bydd y Bil Tai yn gosod ymyriadau cynnar wrth wraidd dyletswyddau digartrefedd Awdurdodau Lleol, ac yn ategu’r mesurau rydym yn eu cymryd mewn meysydd eraill fel gwasanaethau cymdeithasol, cam-drin domestig a chyfiawnder ieuenctid.

 

Mae’r cyllid yn y gyllideb ddrafft ar gyfer Byw’n Annibynnol, gwerth £4.4m yn 2015-16, hefyd yn wariant ataliol. Mae’r cyllid hwn yn darparu’r addasiadau ffisegol sydd eu hangen ar bobl i aros yn eu cartrefi yn hytrach na mynd i’r ysbyty neu gartref gofal. Mae’r cyllid hefyd yn galluogi cleifion i adael yr ysbyty yn gynt a dychwelyd adref drwy wneud yr addasiadau bach sydd eu hangen a thrwy hynny ryddhau adnoddau ysbytai yn gynt.

 

Mae egwyddorion tebyg yn ategu'r gefnogaeth barhaus y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i'r Trydydd Sector yng Nghymru, gan gydnabod bod miloedd o sefydliadau gwirfoddol a chymunedol ym mhob rhan o’r wlad yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gefnogi unigolion a grwpiau, gan leihau’r baich ar wasanaethau cyhoeddus.  Er enghraifft, mae elusennau iechyd a grwpiau cymorth yn darparu cymorth i bobl ag ystod eang o broblemau iechyd a allai fod yn fwy dibynnol ar y GIG fel arall.  Mae angen i’r sefydliadau hyn, yn eu tro, gael y cyngor a’r cymorth i sicrhau y cânt eu rheoli’n dda a’u bod yn gynaliadwy. Gyda mwy o bwyslais ar lywodraethu da a chynnydd cyson yn y fframweithiau rheoliadol sy’n effeithio ar grwpiau gwirfoddol, mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer seilwaith y Trydydd Sector yn sicrhau bod cyngor cyson a dibynadwy ar gael ar gyfer sefydliadau gwirfoddol a gwirfoddolwyr unigol ledled Cymru.

 

Mae’r arian a ddarperir ar gyfer Gwasanaethau Cynghori yn gyllid ataliol, boed yn gyngor ar ddyledion neu fanteisio ar fudd-daliadau. Fel y nodwyd uchod, nod y cyllid hwn yw sicrhau bod pobl yn cael cymorth cyn iddynt ganfod eu hunain mewn sefyllfa lle mae’n rhaid iddynt geisio ffynonellau cymorth eraill neu hyd yn oed gyllid.

 

Mae ein buddsoddiad parhaus mewn Cynhwysiant Digidol yn enghraifft amlwg o gyllid ataliol gan ei fod yn gwella ansawdd bywyd pobl drwy eu helpu i ddod o hyd i waith a gwneud i’w harian fynd ymhellach drwy nwyddau a gwasanaethau rhatach a mwy hygyrch ar-lein.  Gall gwasanaethau digidol fel skype a grwpiau cymorth ar-lein helpu i leihau teimladau o unigedd a helpu pobl i fyw’n annibynnol hefyd, gan wella Iechyd a Lles a lleihau’r pwysau ar gyllidebau iechyd o bosibl. Caiff cymorth cyllidebol ei gynnal ar gyfer Cynhwysiant Digidol drwy ddefnyddio cyllid yr UE a gariwyd ymlaen o 2014-15. Mae ein rhaglen cynhwysiant digidol yn cyfrannu’n uniongyrchol at drechu tlodi, fel y dangosir gan y targedau cynhwysiant digidol a ymestynnwyd yn ddiweddar a nodir yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi. Caiff dinasyddion sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol eu cynorthwyo i ennill sgiliau TGCh sylfaenol er mwyn helpu i wella eu siawns o gael gwaith ac arbed arian drwy brynu nwyddau a gwasanaethau rhatach a mwy hygyrch ar-lein. Mae buddsoddi mewn cymdeithas sy’n fwy cynhwysol yn ddigidol yn enghraifft amlwg o wariant ataliol, a fydd yn arwain at fwy o arbedion yn sgil y defnydd cynyddol o wasanaethau cyhoeddus digidol.

 

Yn y tymor hwy, bydd creu mwy o safleoedd ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yn cael sgil-effaith gadarnhaol ar Dai Cymdeithasol gan y bydd yn rhyddhau mwy o dai os bydd Sipsiwn a Theithwyr yn gallu symud i safle newydd. Yn ôl Cyfrifiad 2011, roedd Sipsiwn a Theithwyr fwy na dwywaith yn fwy tebygol o fyw mewn tai cymdeithasol o gymharu â’r boblogaeth gyffredinol yng Nghymru a Lloegr (41 y cant o gymharu ag 16 y cant).

 

 

7.            Deddfwriaeth

 

Bil Tai (Cymru)

 

Daeth Bil Tai (Cymru) yn Ddeddf Tai (Cymru) 2014 pan roddwyd Cydsyniad Brenhinol iddo yng nghanol mis Medi 2014.

 

Ers iddo gael ei gyflwyno ym mis Tachwedd 2013, mae'r Bil wedi'i ategu gan Femorandwm Esboniadol, sy'n cynnwys Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn nodi goblygiadau ariannol yr amrywiol ddarpariaethau yn y Bil.

 

Nodwyd y byddai Llywodraeth Cymru yn mynd i’r costau ychwanegol canlynol wrth weithredu’r ddeddfwriaeth yn 2015-16:

•           £800,000 ar gyfer Rhan 1 (Rheoleiddio Tai Rhent Preifat); 

•           £5,900,000 ar gyfer Rhan 2 (Digartrefedd)

 

Y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol

 

Nid yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (y Bil o hyn ymlaen) a bydd y Llywodraeth yn gwrthwynebu'r Bil ar Gam 1. Ar hyn o bryd, mae'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol i'r Bil yn cynnwys syniad bras iawn o'r costau y bydd Llywodraeth Cymru a'r sector cyhoeddus ehangach yn mynd iddynt wrth weithredu'r Bil.  Mae Llywodraeth Cymru o'r farn y byddai'n fuddiol i'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol gynnwys mwy o fanylion am rai o'r costau a gyfrifwyd er mwyn gwella cadernid y wybodaeth ariannol a ddarparwyd. Ar wahân i hyn, mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn gwbl ymrwymedig ar hyn o bryd ac felly, pe bai'r Bil yn dod yn gyfraith, byddai'n rhaid ailflaenoriaethu'r costau hyn o gyllidebau sy'n bodoli eisoes.

 

 

 

Lesley Griffiths AC

Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

 

 

 


 

 

 

 

 

CYLLIDEB REFENIW - Terfyn Gwariant Adrannol

 

 

 

 

SPA

Camau gweithredu

BEL

2014-15 Cyllideb Atodol Cynlluniau Newydd Mehefin 2014

2015-16
Gwaelodlin

Newidiadau

Cyllideb Ddrafft 2015-16

Cefnogi Cymunedau a Phobl

Y Trydydd Sector

Y Trydydd Sector

7,300

7,000

-195

6,805

 

Y Trydydd Sector

7,300

7,000

-195

6,805

Trechu Tlodi

Cynhwysiant Ariannol

15,977

14,977

200

15,177

Cynhwysiant Digidol

1,000

1,000

-1,000

0

Diwygio Lles

145

0

0

0

Cymunedau yn Gyntaf

39,450

38,383

-2,322

36,061

Polisi Tlodi Plant

140

140

0

140

Trechu Tlodi

56,712

54,500

-3,122

51,378

Cyfanswm Cefnogi Cymunedau a Phobl

64,012

61,500

-3,317

58,183

Cydraddoldeb a Chynhwysiant

Cydraddoldeb a Chynhwysiant

Cydlyniant Cymunedol

200

200

0

200

Cronfa Cydraddoldeb a Chynhwysiant

1,645

1,645

0

1,645

Cydraddoldeb a Chynhwysiant

1,845

1,845

0

1,845

Cyfanswm Cydraddoldeb a Chynhwysiant

1,845

1,845

0

1,845

Polisi Tai

Cefnogi Pobl

Grant Cefnogi Pobl

134,359

130,218

-5,809

124,409

Digartrefedd

Digartrefedd

6,431

11,331

0

11,331

Byw'n Annibynnol

Asiantaethau Gwella Cartrefi

4,191

4,191

-135

4,056

Rhaglen Addasiadau Brys

432

432

 

432

Byw'n Annibynnol

4,623

4,623

-135

4,488

Datblygu a Gweithredu Polisi

Datblygu a Gweithredu Polisi

1,702

1,702

-450

1,252

Datblygu a Gweithredu Polisi

1,702

1,702

-450

1,252

 Cyfanswm Polisi Tai

147,115

147,874

-6,394

141,480

Cartrefi a Lleoedd

Sicrhau tai o ansawdd

Safonau Ansawdd Tai Cymru

274

274

-174

100

 

Sicrhau tai o ansawdd

274

274

-174

100

Cynyddu'r Cyflenwad a'r Dewis o Dai Fforddiadwy o Ansawdd

Ffactorau Galluogi Tai

95

95

 

95

Cymorth ar gyfer Tai Cymdeithasol

4,000

4,000

100

4,100

Cynyddu'r Cyflenwad a'r Dewis o Dai

4,095

4,095

100

4,195

Ymchwil a gwerthuso polisi

Tai fforddiadwy

0

0

30

30

Ymchwil a gwerthuso polisi

362

312

720

1,032

Ymchwil a gwerthuso polisi

362

312

750

1,062

Cynyddu'r Cyflenwad a'r Dewis o Dai ar y Farchnad

Cynyddu'r Cyflenwad a'r Dewis o Dai ar y Farchnad

0

0

30

30

Adfywio

 

 

Gweithredu Ardaloedd Adfywio Strategol

3,827

3,381

-1,436

1,945

Rheoli'r Gwaith o Ddarparu Ardaloedd Adfywio Etifeddol

6,790

6,790

0

6,790

Adfywio

10,617

10,171

-1,436

8,735

 

Cyfanswm Cartrefi a Lleoedd

15,348

14,852

-730

14,122

 

Cyfanswm y Refeniw - Cymunedau a Threchu Tlodi

228,320

226,071

-10,441

215,630

 

 

 

 

 

 

CYLLIDEB CYFALAF - Terfyn Gwariant Adrannol

 

 

 

 

 

SPA

Camau gweithredu

BEL

2014-15 Cyllideb Atodol Cynlluniau Newydd Mehefin 2014

2015-16
Gwaelodlin

Newidiadau

Cyllideb Ddrafft 2015-16

Cymunedau a Threchu Tlodi

Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyfleusterau Cymunedol

10,950

10,950

-4,950

6,000

Sipsiwn-Teithwyr

1,500

1,500

2,000

3,500

Cymunedau a Threchu Tlodi

12,450

12,450

-2,950

9,500

 

Cyfanswm Cymunedau a Threchu Tlodi

12,450

12,450

-2,950

9,500

Polisi Tai

Byw'n Annibynnol

Rhaglen Addasiadau Brys

1,641

1,641

0

1,641

 

Byw'n Annibynnol

1,641

1,641

0

1,641

Cronfa Gofal Canolraddol

Cronfa Gofal Canolraddol

15,000

0

0

0

 

Cronfa Gofal Canolraddol

15,000

0

0

0

Rhaglen Eiddo Gwag

Rhaglen Eiddo Gwag

0

0

10,000

10,000

 

 

Rhaglen Eiddo Gwag

0

0

10,000

10,000

 

 Cyfanswm Polisi Tai

16,641

1,641

10,000

11,641

Cartrefi a Lleoedd

Sicrhau Tai o Ansawdd

Lwfans Atgyweiriadau Mawr

108,000

108,000

 

108,000

Cymorth Cyffredinol sy'n Gysylltiedig â Thai

37,470

37,470

 

37,470

Ardaloedd Adnewyddu

11,537

11,537

-3,508

8,029

Benthyciad Gwelliannau i'r Cartref

0

0

5,000

5,000

Sicrhau tai o ansawdd

157,007

157,007

1,492

158,499

Cynyddu'r Cyflenwad a'r Dewis o Dai Fforddiadwy o Ansawdd

Grantiau Tai Cymdeithasol

53,833

57,833

0

57,833

Tir ar gyfer Tai

13,700

0

10,000

10,000

Gofal ychwanegol

4,301

4,301

0

4,301

Cynyddu'r cyflenwad a'r dewis o Dai o Ansawdd

71,834

62,134

10,000

72,134

Cynyddu'r Cyflenwad a'r Dewis o Dai ar y Farchnad

Cymorth i Brynu - Cymru

69,000

71,000

0

71,000

 Cymorth i Brynu - Cymru

69,000

71,000

0

71,000

Adfywio

Gweithredu Ardaloedd Adfywio Strategol

39,600

44,900

3,508

48,408

Rheoli'r Gwaith o Ddarparu Ardaloedd Adfywio Etifeddol

1,400

1,400

0

1,400

Cyllid Cyfalaf Cyffredinol Adfywio Awdurdodau Lleol

10,888

10,888

0

10,888

Adfywio Canol y Dref

0

0

5,000

5,000

Cyfanswm Adfywio

51,888

57,188

8,508

60,696

 

Cyfanswm Cartrefi a Lleoedd

 

349,729

347,329

20,000

362,329

 

Cyfanswm y Cyfalaf - Cymunedau a Threchu Tlodi

 

378,820

361,420

27,050

383,470

 

Cyfanswm Cyllideb DEL Cymunedau a Threchu Tlodi

2014-15 Cyllideb Atodol Cynlluniau Newydd Mehefin 2014

2015-16
Gwaelodlin

Newidiadau

Cyllideb Ddrafft 2015-16

 

DEL Refeniw

 

228,320

226,071

-10,441

215,630

 

DEL Cyfalaf

 

378,820

361,420

27,050

388,470

 

Cyfanswm DEL

 

607,140

587,491

16,609

604,100

 



[1] Mae'n cynnwys: Newid i uwchraddio'r rhan fwyaf o fudd-daliadau a chredydau treth yn ôl y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (yn hytrach na'r Mynegai Prisiau Manwerthu neu Fynegai Rossi), cap o 1% ar y rhan fwyaf o fudd-daliadau oedran gweithio a chredydau threth (heb gynnwys budd-daliadau anabledd a gofalwyr) a Budd-dal Plant, cynyddu cyfraddau LTLl yn ôl y 30fed ganradd o renti ar y farchnad leol yn hytrach na'r canolrif (yn rhan o ddiwygiadau 2011-12 i'r LTLl), a chynyddu cyfraddau LTLl yn ôl y Mynegai Prisiau Defnyddwyr yn hytrach na'r 30fed ganradd o renti ar y farchnad leol.

[2] Phillips, D. (2014) Effeithiau dosbarthiadol diwygiadau treth a lles Llywodraeth y DU yng Nghymru: diweddariad.